★ wanayoo — archive 1999 http://news.bbc.co.uk/low/english/newyddion/default.stmNouvelle recherche | Portail wanayoo
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd | Clecs Cymru

BBC News Online: Newyddion


Dydd Gwener, 7 Ebrill, 2000, 09:51 GMT
NEWYDDION
Tony Blair
Gwasanaeth Iechyd yn cael sylw Blair
Mae'r Prif Weinidog yn cadeirio uwchgynhadledd yng Nghaerdydd sy'n trafod diwygio'r Gwasanaeth Iechyd.

Ysbyty Tywysog Charles
Damwain ffordd: Dwy yn dal mewn cyflwr difrifol
Mae'r ddwy fenyw ifanc a gafodd eu hanafu mewn damwain car ger Merthyr Tudful yn dal mewn cyflwr difrifol.

Barclays
Barclays yn cau canghennau
Mae Banc Barclays yn cau 172 o ganghennau drwy Prydain, gan gynnwys rhai yng Nghymru.


Trigolion Mochdre yn trafod ymddygiad afreolus
Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus ym Mochdre ger Bae Colwyn i drafod ymddygiad afreolus rhai o bobol ifanc y pentre.


Leeds yn chware yn Nhwrci
Fe adawodd UEFA, y corff sy'n rheoli pêl-droed yn Ewrop, i'r gêm rhwng Leeds a Galatasaray fynd yn ei blaen er i ddau o ddilynwyr Leeds gael eu llofruddio.


Yr heddlu'n ymchwilio i docynnau Cwpan y Byd
Mae'r ymchwiliad i honiadau o dwyll wrth werthu tocynnau Cwpan Rygbi'r Byd wedi cael ei drosglwyddo i'r heddlu.


140 o swyddi newydd i Fflint
Mi fydd yna 140 o swyddi newydd yn dod i Fflint - a hynny efo help grant rhanbarthol gan y Cynulliad.


Galw am gymorth o'r gorllewin i Ethiopia
Mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig wedi galw ar wledydd llewyrchus y byd i roi yn hael i achub y miliynau sydd bron a newynu yn Ethiopia.


Aber yn ganolbwynt i'r Celtiaid
Y cerddor John Cale agorodd yr Wyl Ffilm a Theledu Celtaidd yn Aberystwyth.


Dim lle i chwarae pêl
Mae ysgol mor brin o le fel bod y plant yn gorfod cael eu hamser chwarae mewn shifftiau ac mae ystafell yr athrawon mewn cwpwrdd o dan y grisiau.


Ffrwydriad yng ngwersyll y Fyddin
Mae ffrwydriad wedi bod yng ngwersyll y Fyddin yn Derry yng Ngogledd Iwerddon.


Dal i frwydro'n erbyn ehangu fferm wynt
Mae brwydr i atal codi tyrbeini gwynt ym Mhowys wedi cyrraedd yr Uchel Lys.


Cynnig arall am Rover
Mae'n debyg bod cyn brif weithredwr Rover yn bwriadu gwneud cynnig i brynu'r cwmni.


Cyn seren bop yn dwyn tegan
Mae'r canwr pop, Steve Strange, wedi'i gael yn euog o ddwyn o siopau ym Mhen-y-bont ar Ogwr.


Cyfadde torri rheolau diogelwch
Mae British Nuclear Fuels wedi cyfaddef eu bod nhw wedi torri rheolau diogelwch ar ôl i dri o weithwyr y cwmni gael eu anafu mewn digwyddiad yn Sellafield.


Dilynwyr pêl-droed yn dilyn y ffasiwn
Dilynwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam ydy'r rhai efo fwya o steil yng Nghymru.


Pwyllgor seneddol yn holi Byers
Mae'r Ysgrifennydd Diwydiant a Masnach Stephen Byers wedi gwadu iddo fod yn gwybod ymlaen llaw am gynlluniau BMW wrth iddo ymddangos o flaen pwyllgor o aelodau seneddol.


Ysgol gyfun yn methu prawf
Ysgol gyfun i fechgyn yw'r ail yng Nghymru i gael ei hystyried yn "fethiant".


Hyfforddwr yn cael ei feio am ladd milwr
Hyfforddwr sy'n cael ei feio am ladd milwr o Gymru yn ystod ymarferiad yn Nyfnaint yr wythnos ddiwetha'.


Cyhuddo cyd-garcharor o lofruddiaeth
Ymddangosodd gwr 28 oed o flaen llys Ynadon Caerdydd ar gyhuddiad o lofruddio cyd-garcharor.


Llythyr Pennal yn ôl yng Nghymru
Ar ôl cryn ddadlau mae y llythyr mwyaf arwyddocaol yn hanes Cymru wedi dod nôl i Gymru.


Ymchwiliad newydd i drychineb llong y Derbyshire
Mae'r ymchwiliad i ddamwain llong y Derbyshire ger glannau Japan ugain mlynedd yn ôl yn ail-agor yn Llundain.


Y farchnad stoc mewn trafferth
Mae marchnadoedd stoc Ewrop wedi ymateb yn ofalus wedi i werth cyfranddaliadau Wall Street ostwng yn sylweddol ddydd Mawrth.

Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd | Clecs Cymru